兔子先生

En

Buddsoddiad y Coleg mewn Canolfannau Dysgu


17 Hydref 2018

Buddsoddiad y Coleg mewn Canolfannau Dysgu

Gall fyfyrwyr Coleg Gwent bellach gymryd mantais o’r ganolfan ddysgu newydd gwerth 拢2.5 miliwn ar gampws Brynbuga, fel rhan o’u cwrs.

Dadorchuddiodd Tim Smit, creawdwr Prosiect Eden a sylfaenydd Gerddi Coll Heligan, y ganolfan ddysgu newydd i gynulleidfa a oedd yn cynnwys Maer Brynbuga, cynghorwyr o Dorfaen, Sir Fynwy ac eraill. Ynghylch y ganolfan Cwblhawyd y ganolfan ddysgu gwerth 拢2.5 miliwn, newydd, ym mis Mehefin eleni, 10 mis yn unig ar 么l dechrau’r gwaith adeiladu. Bydd dros 270 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau tir, chwaraeon a gofal anifeiliaid, yn defnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan newydd fel rhan o’u hastudiaethau. Mae hyn ar ben cyfleusterau arbenigol eraill, sy’n cynnwys fferm weithiol, canolfan marchogol pwrpasol, ystod lawn o gyfleusterau gofal anifeiliaid sy’n cynnwys canolfan ailgartrefu cathod Blue Cross.

Dywedodd Pennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey:”Mae’r Coleg yn falch iawn ei fod wedi hunan-ariannu y ganolfan fel rhan o’n buddsoddiad parhaus yn ein myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol. Mae ein canolfan ddysgu newydd yn fwy na’r un blaenorol ac yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf gan gynnwys meddalwedd awtomatig i fenthyg a dychwelyd llyfrau, dyfeisiau symudol yn y dosbarth a Wi-Fi o ansawdd uchel drwy’r adeilad cyfan. “Rydym yn treialu ystod o offer arloesol, digidol gyda’n myfyrwyr, a byddwn yn ceisio ymgorffori’r rhain ar gampws newydd Torfaen pan fydd yn agor yng Nghwmbr芒n yn 2020.”